Information

Cwestiynau ac Atebion

08/02/2014 12:08 pm

'Marw a Gynorthwyir yn aml yn y newyddion. Mae bil Aelod Preifat gerbron y Senedd i geisio gyfreithloni. Ond beth yw 'marw a gynorthwyir'? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am y peth? Beth y mae'n rhaid i feddygon ddweud am y peth? Beth mae'r Eglwys ei ddweud am y peth a beth yw'r problemau ag ef?

Beth yn union yw ‘cymorth i farw’?

Gwir ystyr ‘cymorth i farw’ yw cymorth i ladd yr hunan. Dyna’r ieithwedd a ddefnyddir gan y rhai sydd am newid y gyfraith i gyfreithloni hunan-laddiad.  Byddai cyfraith i ganiatáu ‘cymorth i farw’ yn awdurdodi meddygon i gyflenwi cyffuriau marwol i gleifion oedd yn derfynol sâl.

Oni ddylai pawb gael yr hawl i benderfynu pryd a sut y byddant farw?

Gallai cyfraith i ganiatáu ‘cymorth i farw’ yn hawdd rhoi pobl fregus mewn perygl. Mae yna bryderon dwys ynghylch y perygl y gall y fath gyfraith gael ei cham-ddefnyddio. Er enghraifft, gallai rhai pobl sy’n derfynol sâl deimlo dan bwysau i ddiweddu eu hoes, naill ai gan eraill neu gan ymdeimlad eu bod am ryddhau eu teulu rhag baich gofal neu ariannol. Byddai eraill yn dewis y llwybr hwn oherwydd iselder, sy’n ddigon cyffredin mewn cleion terfynol. Gallai ‘hawl i farw’ yn hawdd droi yn ‘ddyletswydd i farw’.

Pam ddylai pobl sy’n wynebu marwolaeth gael eu gorfodi i aros yn fyw a dioddef?

Mae gofal diwedd bywyd ym Mhrydain wedi datblygu’n enfawr ers y dyddiau pan gysylltid marwolaeth yn gyffredin gyda phoen a dioddefaint. Mewn arolwg rhyngwladol gan yr Economist  yn 2010 roedd Prydain ymysg y 40 gwladwriaeth orau, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, am ofal diwedd bywyd. Yr hyn sydd ei angen yw sicrhau fod pawb yn gallu derbyn y gofal lliniarol gorau sydd ar gael. O’i gymharu â’r syniad yna, mae cymorth i hunan-laddiad yn deillio o anobaith.

Beth yw’r sefyllfa gyfreithiol ar hyn o bryd?

Mae hi yn erbyn y gyfraith i hybu neu gynorthwyo rhywun arall i gymryd ei fywyd ei hun. Mae hyn yn adlewyrchiad o’r ymdeimlad cyffredin y dylid trin pobl sy’n ceisio lladd eu hunain gyda chydymdeimlad, eto nid yw cynorthwyo hunan-laddiad yn rhywbeth y dylid ei gefnogi. Yn wir, fel cymdeithas yr ydym yn mynd i eithafion i geisio atal hunan-laddiad.

Beth sydd gan yr Eglwys i’w ddweud am gymorth i ladd yr hunan?

Mewn neges at Gatholigion yn Iwerddon, yr Alban, Lloegr a Chymru  fe ddwedodd y Pab Ffransis ‘Mae hyd yn oed y mwyaf gwan a’r mwyaf bregus, y cleifion, yr henoed, y rhai cyn eu geni a’r tlodion, i gyd yn gampau o greadigrwydd Duw, wedi eu llunio ar ei ddelw ef, wedi eu dylunio i fyw am byth, ac yn haeddu’r anrhydedd a’r parch mwyaf un’. Mae’r Eglwys o blaid gofal o safon uchel i’r rhai sydd ar farw. Mae hi’n dysgu fod bywyd yn rhodd gan Dduw (Ioan 10:10) ac mai hunan-laddiad yw’r mynegiant eithafol o fethiant i dderbyn y rhodd o fywyd. Er y dylid trin ymgais i ladd yr hunan gyda chydymdeimlad yn hytrach na beio, ni ddylid fyth gefnogi neu hyrwyddo hunan-laddiad. Yn ogystal mae’r Eglwys fod diweddu neu helpu i ddiweddu bywyd rhywun yn ddrwg. Mae unrhyw un sy’n cymryd bywyd rhywun arall yn cymryd arnynt y gallu dros fywyd a marwolaeth, sydd yn y pen draw yn eiddo i Dduw.

Beth mae meddygon yn ei ddweud?

Mae’r BMA a Cholegau Brenhinol y Ffisegwyr, y Meddygon Teulu a’r Llawfeddygon yn erbyn cyfreithloni cymorth gan feddygon i bobl ladd eu hunain. A dydy’r rhan fwyaf o feddygon ddim yn edrych ar y weithred fel rhan briodol o’u gwaith clinigol. Maen nhw’n ymwybodol iawn trwy eu profiad fod pobl sydd ar farw yn gallu bod yn fregus iawn.

Beth sydd o’i le gyda newid y gyfraith?

Mae yna resymau cryf ac ymarferol dros beidio newid y gyfraith. Mae hi bron yn amhosib body n sicr fod cais am gymorth i gyflawni hunan-laddiad gan rywun sy’n derfynol sâl yn fynegiant o ewyllys eglur a phwyllog nad yw dan ddylanwad iselder ysbryd neu bwysau o ryw fath o ryw du. Gallai newid y gyfraith roi i nifer fechan iawn o bobl o ewyllys gref yr hyn maen nhw’n dymuno, ond yr un pryd gallai yn hawdd osod nifer llawer mwy o bobl fregus mewn perygl o niwed.

Oni fyddai yna ddulliau diogelu pob mewn unrhyw system gyfreithiol?

Byddai, ond beth fyddai’r dulliau a pha mor effeithiol fyddan nhw?  Yn y nifer fechan iawn o wledydd lle mae cymorth i ladd yr hunan wedi eu cyfreithloni mae yna dystiolaeth yn dod i’r amlwg nad yw’r dulliau yn gweithio. Er enghraifft, mae rhai cyfreithiau yn ceisio cyfyngu cymorth i hunan-laddiad i’r rhai sy’n derfynol sal sydd o gwmpas eu pethau ac yn hollol rydd eu hewyllys. Ond mae rhagweld y broses o farw mewn pobl sal iawn yn dal yn broblem anodd: maen nhw yn aml yn byw llawer n hirach nag a ragwelwyd wrth wneud y diagnosis, ac ambell waith maen nhw’n gwella’n llwyr. Ac mae’r  dystiolaeth o dramor yn dangos fod meddygon weithiau wedi methu sylwi ar iselder clinigol ymysg y rhai a dderbyniodd gyffuriau marwol i ddiweddu eu bywyd.

Os allaf i ddiweddu fy mywyd trwy wrthod triniaeth, pam na allaf i gael cymorth meddygol i’w ddiweddu?

Mae gan bawb hawl cyfreithiol i wrthod triniaeth, ond yn anaml y mae cleifion yn gwneud hynny er mwyn diweddu eu bywyd: men nhw’n gwneud hynny am eu body n cael y driniaeth yn ormod o faich ac am i natur fynd rhagddi. Mae yna fyd o wahaniaeth, mewn moeseg feddygol ac yn y gyfraith, rhwng derbyn na ellir atal marwolaeth a cheisio cymorth i roi diwedd ar eich bywyd.

Onid yw meddygon weithiau yn cyflymu marwolaeth cleifion dan gochl lliniaru poen?

Erbyn hyn, mae lliniaru poen yn wyddor soffistigedig. Pan ragnodir a gweinyddir analgesiaid, does yna ddim perygl i’r claf. Mae ymchwil wedi dangos fod achosion o feddygon yn gam ddefnyddio mesurau fel hyn yn anghyfreithlon yn brin iawn os yw’n digwydd o gwbl.

Mae pobl o Brydain yn mynd i’r Swistir i gael cymorth i ladd eu hunain. Pam na ddylen nhw allu gael y cymorth yna yma?

Er bod pob ‘hunan-laddiad Swis’ yn cael sylw mawr yn y wasg, dim ond tua 1 ym mhob 25,000 marwolaeth pobl Prydain yn ystod y ddegawd ddiwethaf wedi digwydd yn y dull yna. Nid yw’r ffaith fod nifer fechan iawn o bobl Prydain yn dewis mynd i geisio cymorth i ladd eu hunain mewn gwladwriaeth arall yn golygu y dylen ni yma gyfreithloni’r broses yn y fan hyn. Ni sy’n creu ein cyfreithiau ni’n hunain, ac mae amddiffyn cyfreithiol i’r gwan a’r bregus yn ddyletswydd sylfaenol i’r wladwriaeth ‘r gymdeithas.

Mae pobl o Brydain yn mynd i’r Swistir i gael cymorth i ladd eu hunain. Pam na ddylen nhw allu gael y cymorth yna yma?

Er bod pob ‘hunan-laddiad Swis’ yn cael sylw mawr yn y wasg, dim ond tua 1 ym mhob 25,000 marwolaeth pobl Prydain yn ystod y ddegawd ddiwethaf wedi digwydd yn y dull yna. Nid yw’r ffaith fod nifer fechan iawn o bobl Prydain yn dewis mynd i geisio cymorth i ladd eu hunain mewn gwladwriaeth arall yn golygu y dylen ni yma gyfreithloni’r broses yn y fan hyn. Ni sy’n creu ein cyfreithiau ni’n hunain, ac mae amddiffyn cyfreithiol i’r gwan a’r bregus yn ddyletswydd sylfaenol i’r wladwriaeth ‘r gymdeithas.  

'assisted dying'

Sense and Nonsens

ar-marw-a-gynorthwyir-sense-nonsens.doc 105.00 kB

Cwestiwn ac ateb Dogfen syml edrych ar wybodaeth a gwybodaeth anghywir o amgylch y pwnc o hunanladdiad â chymorth.